Psalms 53

Drygioni'r galon ddynol

(Salm 14)

I'r arweinydd cerdd:  Mascîl ar yr alaw  “Machalath”. Salm Dafydd.

1Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun,
“Dydy Duw ddim yn bodoli.”
Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd.
Does neb yn gwneud daioni!
2Mae Duw yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaeth
i weld os oes unrhyw un call;
unrhyw un sy'n ceisio Duw.
3Ond mae pawb wedi troi cefn arno,
ac yn gwbl lygredig.
Does neb yn gwneud daioni –
dim un!
4Ydyn nhw wir mor dwp? – yr holl rhai drwg
sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd,
a byth yn galw ar yr Arglwydd?
5Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau
– fuodd erioed y fath beth o'r blaen –
Bydd Duw yn chwalu esgyrn y rhai sy'n ymosod arnat ti.
Byddi di'n codi cywilydd arnyn nhw,
am fod Duw wedi eu gwrthod nhw.
6O dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion!
Pan fydd Duw yn troi'r sefyllfa rownd
bydd Jacob yn gorfoleddu,
a bydd Israel mor hapus!
Copyright information for CYM